David Thompson | |
---|---|
Ganwyd | 25 Rhagfyr 1961 Llundain |
Bu farw | 23 Hydref 2010 Saint Philip |
Dinasyddiaeth | Barbados |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, cyfreithiwr, cyfreithegwr |
Swydd | Member of the House of Assembly of Barbados, Prif Weinidog Barbados |
Plaid Wleidyddol | Democratic Labour Party |
Priod | Mara Thompson |
Cyfreithiwr a gwleidydd o Farbados oedd David John Howard Thompson (25 Rhagfyr 1961 – 23 Hydref 2010)[1] oedd yn Brif Weinidog Barbados o Ionawr 2008 hyd ei farwolaeth.
Cafodd ei eni yn Llundain a'i fagu ym Marbados. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol India'r Gorllewin ac ym 1986 ymunodd â Trident Chambers, cwmni cyfreithwyr dan arweiniad Errol Barrow, Prif Weinidog cyntaf Barbados. Daeth Thompson yn bennaeth adran ieuenctid y Blaid Lafur Ddemocrataidd (DLP)[1] ac ym 1987 enillodd is-etholiad i fod yn Aelod Seneddol dros Saint John wedi i Barrow, AS yr etholaeth honno, farw. Gwasanaethodd fel Gweinidog Datblygiad Cymunedol a Diwylliant ac yna Gweinidog Cyllid yn ystod llywodraeth y Prif Weinidog Lloyd Erskine Sandiford ar ddechrau'r 1990au.[2] Daeth Thompson yn arweinydd y DLP ym 1994 ond collodd y blaid etholiadau cyffredinol ym 1994 a 1999. Ymddiswyddodd o arweinyddiaeth y blaid ym mis Medi 2001[2] gan ddychwelyd at fod yn gyfreithiwr,[1] ond dychwelodd i arwain y DLP yn Ionawr 2006.[2]
Enillodd y DLP fwyafrif seneddol yn etholiad cyffredinol 2008 a daeth Thompson yn chweched Brif Weinidog y wlad ers ei hannibyniaeth. Roedd Thompson yn Brif Weinidog etholedig ieuaf y wlad.[3] Bu farw o ganser y pancreas yn ei gartref ym mhlwyf Saint Philip yn 2010.[4]